Hanes Cymry

Lleiafrifoedd Ethnig a'r Gwareiddiad Cymraeg

Awdur(on) Simon Brooks

Iaith: Cymraeg

Dosbarthiad(au): History, Literary Studies, Wales Studies, Welsh Language

  • Mawrth 2021 ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781786836427
  • · eLyfr - pdf - 9781786836434
  • · eLyfr - epub - 9781786836441
  • · eLyfr - epub - 9781786836458

Mae'r gyfrol arloesol hon yn cyflawni dwy amcan. Yn gyntaf - ac am y tro cyntaf - mae'n cynnwys hanes lleiafrifoedd ethnig oddi mewn i'r diwylliant Cymraeg, a hynny o ddyddiau Macsen Wledig hyd heddiw. Yn ail, mae'n dehongli amlethnigrwydd o safbwynt Cymraeg yn hytrach na Saesneg, sy'n arwain at y cwestiwn, 'Pwy yw'r Cymry?' Yn ogystal a'r hanes cyffredinol, ceir penodau am y Sipsiwn Cymreig, Gwyddelod yng Nghymru, amlethnigrwydd cefn gwlad, y Cymry fel lleiafrif ethnig yn Lloegr, a hiliaeth yn erbyn pobl ddu. O ran ei syniadaeth, mae'r gyfrol yn neilltuol gyffrous, a thrafodir pethau mor amrywiol a chenedlaetholdeb a hil, perthynas y Cymry a threfedigaethedd a chaethwasiaeth, Saeson Cymraeg, gwleidyddiaeth iaith, ac amrywiaeth mewnol mewn diwylliannau lleiafrifol. Daw'r gyfrol i ben gan ofyn ai'r Cymry yw pobl frodorol Ynys Prydain. Mae'r cwbl yn rhan o brosiect ehangach yr awdur i geisio ailddehongli'r diwylliant Cymraeg o'i gwr.

Rhestr Luniau
Rhagair
Diolchiadau

1.Cyflwyniad
2.Beth sy'n bod ar amlddiwylliannedd Eingl-Americanaidd unigolyddol?
3.Hanes Cymry - lleiafrifoedd ethnig yn yr archif Gymraeg
4.Amlddiwylliannedd Cymraeg
5.Hybridedd lleiafrifol
6.Pwy yw'r Cymry?
i.Pa mor amlethnig yw'r Fro Gymraeg wledig? Gweler Llyn ac Eifionydd
ii.Ystyr y gair 'Cymry': llenorion Cymraeg o gefndir lleiafrifol ethnig
iii.Y Cymry fel lleiafrif ethnig yn Lloegr: lleiafrif heb ei gydnabod
7.Mae 'na Wyddel yn y dre - dinasyddiaeth Gymraeg a thair ideoleg: rhyddfrydiaeth, sosialaeth a chenedlaetholdeb
8.Ydy'r Cymry'n ddu? - trefedigaethwyr a threfedigaethedig
9.Y Sipsiwn Cymreig - un o ddwy bobl frodorol y Fro Gymraeg
10.Diweddglo - brodorion amlethnig Ynys Prydain
Llyfryddiaeth
Nodiadau

-
+

SÊL BLWYDDYN NEWYDD! 70% o Ostyngiad