Griffith Davies
Arloeswr a Chymwynaswr
Awdur(on) Haydn E. Edwards
Iaith: Cymraeg
Dosbarthiad(au): Wales Studies, Welsh Language
Cyfres: Scientists of Wales
- Ebrill 2023 · 232 tudalen ·216x138mm
- · Clawr Meddal - 9781837720316
- · eLyfr - pdf - 9781837720323
- · eLyfr - epub - 9781837720330
Dyma gyfrol sy’n croniclo bywyd a gwaith Griffith Davies (1788–1855), o’i blentyndod tlawd yn ardal chwareli Arfon i’w waith fel sefydlydd ysgolion mathemateg yn Llundain cyn gosod sylfaen i’r proffesiwn actiwari. Tri mis yn unig o addysg ffurfiol a dderbyniodd Davies, a dyna pryd y sylweddolwyd fod ganddo allu rhyfeddol mewn mathemateg. Mentrodd i Lundain, ac ar ôl blynyddoedd wedi ymroi i hunan ddysgu cyhoeddodd lyfrau mewn mathemateg, ac yn y pen draw fe’i penodwyd yn brif actiwari i gwmni yswiriant y Guardian yn y ddinas. Wrth i’w yrfa ddatblygu, daeth yn Gymrawd o’r Gymdeithas Frenhinol a derbyniodd glod ac anrhydeddau am ei waith. Bu’n weithgar ym mywyd Cymraeg Llundain gan sefydlu cyfres o ddarlithoedd gwyddonol yn ei famiaith, ac ymgyrchodd yn llwyddiannus dros hawliau tyddynwyr bro ei febyd a thros addysg i’w gyd-wladwyr. Mae hanes bywyd Griffith Davies yn stori sy’n ysbrydoli.
Stori am gymeriad rhyfeddol y dylai pob Cymro ei chlywed. Ond mae'r gyfrol yn cynnig gymaint mwy. Cawn Griffith Davies yng nghyd-destun ei oes, ei gefndir, ei ffydd ar heriau a wynebodd, mewn ffordd eithriadol fyrlymus a byw. Diolch i Haydn Edwards am y gwaith pwysig hwn. Perl o lyfr.,Haydn Edwards yw un o addysgwyr mwyaf blaenllaw Cymru. Maen cael dil or pynciau y cafodd arbenigo ynddynt “ gan helpu ieuenctid Cymru i ddatblygu eu doniau. Dim rhyfedd, felly, iddo wirioni ar gampwaith gwas fferm o blwyf Llandwrog, na chafodd fawr ddim addysg, wrth ddod yn arweinydd byd ym maes asesu risg. Dylai hanes Griffith Davies ysbrydolir genedl.
Rhagair Golygydd y Gyfres
Lluniau
Diolchiadau
Rhagair
1 Bore Oes
2 Y Chwarelwr
3 I Lundain a Dysgu
4 Yr Actiwari
5 Yr Ymgyrchydd
6 Yr Alltud
7 Arloesi ac Anrhydeddau
8 Y Penteulu
9 Addysg a Chymwynasau
10 Yr Hybarch
11 Cefnogi a Chrefydda
12 Pen y daith ac Epilog
Nodiadau
Mynegai