‘Golwg Ehangach’
Ffotograffau John Thomas o Gymru Oes Fictoria
Awdur(on) Ruth Richards
Iaith: Cymraeg
Dosbarthiad(au): Art and Visual Culture, Literary Studies, History, Wales Studies, Welsh Language
Cyfres: Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig
- Chwefror 2024 · 208 tudalen ·216x138mm
- · Clawr Meddal - 9781837721177
- · eLyfr - pdf - 9781837721184
- · eLyfr - epub - 9781837721191
Mae’r gyfrol hon yn cynnig golwg newydd ar ddelweddau cyfarwydd y ffotograffydd John Thomas (1838–1905), wrth eu gosod yng nghyd-destun llenyddol a syniadol Cymru yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dyma’r astudiaeth fanylaf o waith John Thomas hyd yma, sy’n torri cwys newydd wrth ddadansoddi’r delweddau ochr yn ochr â llenyddiaeth Gymraeg ei gyfoedion. Mae’r gyfrol hefyd yn trafod perthynas Thomas ag O. M. Edwards, ac yn ystyried goblygiadau amwys y berthynas i’r modd y darllenir gwaith y ffotograffydd hyd heddiw; ac, mewn cyd-destun ehangach, cymherir gwaith Thomas â phrosiect y ffotograffydd Almaenig August Sander (1876–1964) i’r ugeinfed ganrif, gan gynnig dadansoddiad o weledigaeth greadigol ac arloesol y Cymro.
RHESTR DDELWEDDAU
RHAGARWEINIAD
ADRAN 1. CYFLWYNIAD
1.THEMÂU A METHODOLEG
2.HANES CRYNO I FFOTOGRAFFIAETH YNG NGHYMRU A THU HWNT YNG NGHYFNOD JOHN THOMAS
3.JOHN THOMAS A’R CAMBRIAN GALLERY: GWELEDIGAETH CYMRO LERPWL O GYMRU OES FICTORIA
ADRAN 2. YMATEB NOFELYDDOL JOHN THOMAS I’W GYFRWNG
4.Y DDELWEDD A’R GAIR
5.Y GAIR A WNAETHPWYD YN ORTHRWM: HETEROGLOSSIA A MONOGLOSSIA…...
6.CYFRYNGAU CYNNYDD: PORTREADAU O DALHAIARN A SAMUEL ROBERTS, LLANBRYNMAIR
ADRAN 3. SYNIADAETH YR OES MEWN LLÊN A LLUN
7.‘Y DOGMA O ANSICRWYDD’: DANIEL OWEN A’R NARATIF DARWINAIDD
8.‘APPEARANCE, APPEARANCE’: DANIEL OWEN, JOHN THOMAS AC YMDDANGOSIAD CYMRY OES FICTORIA
9.‘ANGENRHEIDRWYDD’ ROBIN BUSNES A ‘CHARICTORS’ ERAILL I GYMRU OES FICTORIA
ADRAN 4. CYMRU A CHYMREICTOD OES FICTORIA
10.‘CYNNYDD TRI UGAIN MLYNEDD’: JOHN THOMAS, OPTIMYDD EI GYFNOD?
11.JOHN THOMAS A’R WISG GYMREIG
ADRAN 5. Y FFOTOGRAFFYDD, Y GOLYGYDD A’R ARCHIF
12.CYMRU JOHN THOMAS YN YR ARCHIF
13.Y FFOTOGRAFFYDD A’R GOLYGYDD
14.‘YR ALBUM COFFADWRIAETHOL CYMREIG’: CYFLWYNO’R WELEDIGAETH
ADRAN 6. JOHN THOMAS AC AUGUST SANDER: DAU FFOTOGRAFFYDD, DAU GYFNOD A DWY GENEDL
15.COFNODI GWEDD EIN CYFNOD
16.CYMRU A’R ALMAEN AR DROTHWY’R DYFODOL
CRYNODEB A CHASGLIADAU
LLYFRYDDIAETH