Darllen y Dychymyg

Creu ystyron newydd i blant a phlentyndod yn Llenyddiaeth y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg

Awdur(on) Siwan M. Rosser

Iaith: Cymraeg

Dosbarthiad(au): Literary Studies, Wales Studies, Welsh Language

Cyfres: Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig

  • Rhagfyr 2020 ·216x138mm

  • · Clawr Meddal - 9781786836502
  • · eLyfr - pdf - 9781786836519
  • · eLyfr - epub - 9781786836526

Erbyn hyn, mae llyfrau i blant ymhlith gwerthwyr gorau'r diwydiant cyhoeddi ac yn rhan ganolog o addysg pob plentyn yng Nghymru. Ond prin yw'r sylw beirniadol a gafodd hanes a datblygiad llenyddiaeth plant yn y Gymraeg. Mae'r gyfrol hon yn mynd i'r afael a'r tawelwch hwnnw ynghylch llenyddiaeth plant yn ein hanes cenedlaethol, gan ddadlau dros ei harwyddocad cymdeithasol a diwylliannol. Drwy fanylu ar ddechreuadau llyfrau a chylchgronau i blant yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, dengys y gyfrol hon fod llenyddiaeth plant yn hanfodol bwysig er mwyn deall sut mae syniadau ac agweddau'n cael eu trosglwyddo a'u trawsffurfio. Ymdrinnir yn bennaf ag agweddau tuag at blant a phlentyndod, gan olrhain y modd yr esblygodd y cysyniadau hynny o dan bwysau trawsnewidiadau economaidd a diwyllianol yr oes. Yng ngoleuni cysyniadau beirniadol Pierre Bourdieu a Michel de Certeau, archwilir y ffactorau oedd cyflyru awduron i ysgrifennu ar gyfer plant yn y lle cyntaf, a'r hyn oedd yn siapio eu hagweddau tuag at eu darllenwyr ifainc. Drwy wneud hynny, mae'r astudiaeth hon yn gosod carreg sylfaen ar gyfer astudio llenyddiaeth plant yn y Gymraeg a'i pherthynas a'i hamgylchfyd hanesyddol a diwylliannol.

Rhagair
Rhestr o ddarluniau
ADRAN 1 Cyflwyniad i'r maes
1. Llenyddiaeth Gymraeg i blant
2. Ailafael yn yr Anrheg
ADRAN 2 1820au-1840au
3. Y plentyn arwrol
4. Y plentyn darllengar
ADRAN 3 1840au-1880au
5. Dyfeisio plentyndod
6. Delfrydau newydd
7. Ymestyn y dychymyg a'r meddwl
8. Casgliadau
Ol-nodiadau
Llyfryddiaeth
Mynegai

-
+

SÊL BLWYDDYN NEWYDD! 70% o Ostyngiad