Llywodraeth y Ffŵl

Anterliwt, Gwylmabsant a Chymundeb y Testun

Author(s) Jerry Hunter

Language: Welsh

Genre(s): Literary Studies, Wales Studies, Welsh Language

Series: Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig

  • February 2027 · 272 pages ·216x138mm

  • · Paperback - 9781837724499
  • · - 9781837724505
  • · - 9781837724512

Dyma’r astudiaeth lawn gyntaf sy’n ystyried yr anterliwt, math o ddrama Gymraeg a oedd yn hynod boblogaidd yn y ddeunawfed ganrif. Mae hefyd yn ystyried y berthynas rhwng yr anterliwt a’r wylmabsant, gŵyl gymunedol draddodiadol y perfformid anterliwt ynddi. Bu farw yr anterliwt a’r wylmabsant yn sgil y Diwygiad Methodistaidd ac ymdrechion ymneilltuwyr Cymreig i ‘buro’ cymdeithas, ac felly mae’r llyfr hwn yn fodd i ddeall yn well agweddau ar ddiwylliant Cymru’r gorffennol sydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn. Yn ogystal â dadansoddi 30 o destunau anterliwt, mae’r astudiaeth hon yn defnyddio tystiolaeth gymharol o ieithoedd eraill er mwyn dod â’r diwylliant rhyfeddol hwn yn fyw eto. Dyma fodd i ddeall ‘carnifal’ Cymreig y gorffennol a’r dramâu masweddus doniol a oedd yn ganolog i’r traddodiad carnifalaidd hwnnw.

Y Prolog
Byrfoddau
RHAN I: Cyd-destunau:
Pennod 1: Mwynhau ‘Oferedd Ynfydrwydd’: Gwylmabsant
Pennod 2: ‘Gŵyl Byddin y Tywyllwch’: Lladd Yr Wylmabsant
Pennod 3: ‘Difyrrwch Cnawdol Defodol’: Grym Cymundeb Gwylmabsant
Pennod 4: ‘Darnio Llawer Diwrnod’: Y Chwarae a’r Chwaraewyr
Neilleb: Diffinio Ffiniau: Diwylliant Poblogaidd, Gwaith Proffesiynol a Llên Gwerin
RHAN II: Testunau:
Pennod 5: ‘Nid oes gen-i ond sglodyn’: Ymddangosiad y Ffŵl
Neilleb: Y Ffŵl a Tharddiad yr Anterliwt
Pennod 6: ‘Pwy sydd yma yn fawr ei dwndwr?’: Yr Ymrafael rhwng y Ffŵl a’r Traethydd
Pennod 7: ‘Gyda’ch cennad’: Araith Gychwynnol y Ffŵl
Pennod 8: ‘Ai chware newydd ydi?’: Yr Anterliwtiwr yn yr Anterliwt
Pennod 9: ‘Yn boeth y bo dy balfe!’: Y Ffŵl a’r Cerddor
Pennod 10: ‘Mae arna’i fyd anafus’: Y Ffŵl a’r Cybydd
Pennod 11: ‘Mi ddof i gyda chi os deil y gêr’: Y Ffŵl a Strwythur yr Anterliwt
Pennod 12: ‘Chwi glywsoch lawer cyngor cryno’: Y Ffŵl a Merched y Gynulleidfa
Pennod 13: ‘Fe ddarfu hyn o chware’: Y Diweddglo
Epilog

Author(s): Jerry Hunter

Jerry Hunter is a Senior Lecturer in the Welsh Department at the University of Wales, Bangor.

Read more

-
+

SUMMER SALE!

Get 70% off hundreds of books!